CWLWM

Mae Cwlwm yn brosiect cymunedol cydweithredol dan arweiniad Hedydd, yr artist tecstilau Menna Buss a'r cerddor Eve Goodman, wedi'i ysbrydoli gan ac yn cynnwys Gwisg Calico Cymru.

Mae Gwisg Calico Cymru yn wisg werin sy'n gweithredu fel cynfas cymunedol - mae ganddi dros 300 o fotiffau wedi'u brodio sy'n cynrychioli cysylltiadau personol â Chymru: hoff leoedd, geiriau, dyfyniadau, gobeithion ac atgofion.

Mae'r prosiect hwn yn gyfres o weithdai cymunedol mewn symudiad, cerddoriaeth a thecstilau lle byddwn yn cyd-greu perfformiad yn dathlu pŵer cymuned ac undod a fydd yn cael ei berfformio yn Galeri, Caernarfon ddydd Iau 16 Gorffennaf 2026.

Gyda chyllid a chefnogaeth gan Galeri, Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru, Gisda, a Chyngor Celfyddydau Cymru.