Peunod, Parotiaid a Phing Pong
Mewn cydweithrediad â VDKL
Comisiwn gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Plas Newydd oedd y prosiect hwn i ddathlu bywyd 5ed Ardalydd Ynys Môn.
Fe ddaeth ysbryd mympwyol, doniol a lliwgar yr Ardalydd yn fyw yn y tiroedd hyn unwaith eto drwy lwybr o osodiadau safle-benodol ar dir Plas Newydd, yn cynnwys dawns, cylchoedd awyrol a dawns fertigol gyda cherddoriaeth a disgrifiad sain integredig byw gan Eadyth Crawford.
Gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Plas Newydd











